BWYDLEN

Dr Tamasine Preece

Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Iechyd a Lles; Ymgynghorydd ac ymchwilydd llawrydd

Mae Dr Tamasine Preece yn Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Iechyd a Lles mewn ysgol uwchradd yn Ne Cymru lle mae’n dylunio ac yn cyflwyno cwricwlwm hyblyg y gellir ei addasu mewn ymateb i’r dirwedd dechnolegol sy’n newid yn gyflym ac yn ogystal â’i rhyngweithio a’i hymyriadau gyda phlant.

Mae hi hefyd yn ymgynghorydd llawrydd ac yn ymchwilydd gyda diddordeb penodol mewn camfanteisio gan gynnwys pornograffi, camddefnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol.

Mae Tamasine yn gyd-sylfaenydd y Humanise Project sy’n eiriol dros addysgu perthnasoedd ac addysg rhyw sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall a herio stereoteipiau rhyw. Mae Tamasine wedi cyflwyno cyflwyniadau i lywodraethau Cymru a’r DU, wedi ymgynghori ar gyfer US Not for Profit Culture Reframed ac wedi darparu cymorth i amrywiaeth o sefydliadau ac mewn ymateb i heriau penodol.

Dangos bio llawn Gwefan awdur

Holi ac Ateb

Cyfraniadau awdur