Pa anawsterau y mae athrawon yn eu hwynebu o ran cam-drin plentyn-ar-plentyn ar-lein?
Gofynnwch i unrhyw athro ac arweinydd ysgol nodi'r heriau mwyaf y maent yn eu hwynebu fel addysgwyr ac yn uchel ar y rhestr fe welwch ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol. Mae’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion a mynediad at apiau cyfryngau cymdeithasol yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol wedi trawsnewid y dirwedd ar gyfer llencyndod, ac mae oriau ar oriau o amser athrawon bellach yn cael eu treulio yn cefnogi dysgwyr sydd wedi cael eu herlid ar-lein. Ni waeth a yw’r gamdriniaeth yn digwydd cyn neu ar ôl ysgol, yn y gwersi neu’r tu allan i wersi, mae tarfu sylweddol ar gymuned yr ysgol. Mae staff a phlant yn cael eu heffeithio gan golli amser addysgu a dysgu yn ogystal â pherthynas doredig rhwng cyfoedion, ynysu a llai o ganlyniadau lles i’r plentyn sy’n cael ei erlid, a straen ar weithwyr proffesiynol fel y tîm diogelu a bugeiliol a’r heddlu cymunedol.
Archwilio hunaniaeth, datblygu annibyniaeth, herio’r byd o’u cwmpas a thrafod perthnasoedd â chyfoedion i gyd yn gamau allweddol ar y daith i fod yn oedolyn llwyddiannus. Ac eto mae gan agweddau ar gyfryngau cymdeithasol y gallu i ystumio pob un o’r ymddygiadau datblygiadol allweddol hyn yn rhywbeth a all fod yn gamdriniol ac ecsbloetiol. Fodd bynnag, yn aml nid yw plant a phobl ifanc yn ystyried bod eu hymddygiad ar-lein yn niweidiol, gan eu hystyried yn rhai nad ydynt yn real. Nid ydynt yn gweld bod gan y gweithredoedd hyn yr un gallu i achosi trallod â chyfarfyddiadau wyneb yn wyneb neu drais corfforol neu rywiol.
Pan ddaw cam-drin ar-lein i sylw athro/athrawes, maent yn aml wedyn yn canfod eu hunain yn ceisio ymdopi â thrallod plentyn sydd wedi cael ei aflonyddu a/neu ei gam-drin ochr yn ochr â chyflawnwr neu grŵp o gyflawnwyr sydd wedi egluro eu hymddygiad fel tynnu coes, neu ei gyfiawnhau fel rhyddid i lefaru neu sylw teg. Mae cynnwys rhywiol neu aflonyddu yn aml cael ei ddehongli fel rhan arferol o berthynas neu fflyrtio, efallai efelychiad o ymddygiadau sydd wedi'u normaleiddio gan bornograffi neu ddiwylliant o enwogion ar-lein.
Mewn llawer o achosion, nid yw'n bosibl adnabod crëwr y cynnwys, mae'n aml yn tarddu o gyfrif dienw; yna gall yr aelod o staff ganfod ei hun yn cysylltu rhwng y plentyn, ei deulu, tîm diogelu’r awdurdod a’r heddlu neu hyd yn oed fynd i’r afael â’r safle cyfryngau cymdeithasol ar ran y plentyn, gan geisio cael gwared ar y cynnwys.
Sut y gallai cyrff y tu allan i ysgolion gefnogi athrawon i ymdrin yn effeithiol â cham-drin plentyn-ar-plentyn ar-lein?
Yn ogystal â’r pwysau y mae delio â’r digwyddiadau hyn yn ei roi ar amser staff, mae hefyd yn ofynnol i athrawon fod yn ymwybodol o ddatblygiadau o ran cyfryngau cymdeithasol a’r dirwedd ddigidol ehangach. gan gynnwys pornograffi, y mae athrawon yn wynebu yn awr. Mae hyn yn cynnwys deall y cynildeb sy'n gysylltiedig â phob ap a sut mae cynnwys yn cael ei lunio ac yna ei rannu er mwyn mynd i'r afael â'r effaith negyddol ar y dioddefwr a'i liniaru mor effeithiol â phosibl.
Mae dirfawr angen athrawon ac arweinwyr ysgol hyfforddiant perthnasol er mwyn gwneud hyn yn ogystal â arweiniad clir yn ymwneud â deddfwriaeth berthnasol i amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein. Dylai asiantaethau cymorth cymunedol ysgolion – gan gynnwys yr heddlu – weithio gydag ysgolion i ddatblygu canllawiau, darparu gwybodaeth berthnasol a chyfredol am y rhyngrwyd ac ymddygiadau a gyfryngir gan y rhyngrwyd, a hyrwyddo llwybrau clir ar gyfer atgyfeirio dioddefwyr cam-drin ar-lein.