Er mwyn deall ychydig am eich plant, mae angen rhywfaint o wybodaeth arnom ynglŷn â pha mor hen ydyn nhw. Gan fod plant yn gwneud pethau gwahanol ar wahanol oedrannau a chyfnodau, mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn rhoi cyngor i chi sy'n fwy perthnasol i'w hoedran.
Hefyd, o’n hymchwil, rydym yn gwybod y gall fod angen ychydig o wybodaeth ychwanegol ar blant ag AAA i gefnogi eu hanghenion ar-lein felly os dywedwch wrthym am hyn, gallwn gynnig adnoddau pwrpasol hefyd.
Er mwyn rhoi arweiniad i chi ar sut i wneud y defnydd gorau o osodiadau diogelwch ar eich dyfeisiau, mae angen i ni wybod pa ddyfeisiau sydd gennych a pha rwydweithiau rydych yn eu defnyddio.
Er mwyn rhoi rhywfaint o arweiniad syml ond ymarferol i chi ar yr hyn y mae eich plant yn ei wneud ar-lein, rydym yn gofyn cwestiynau am eu gweithgareddau ar-lein a pha apiau a llwyfannau y maent yn eu defnyddio.
Yn yr adran hon, byddwn yn cynnig ffyrdd o ddiogelu ac ymdrin â risgiau diogelwch ar-lein, a’u hatal rhag troi’n niwed.
Mae hefyd yn bwysig peidio ag anghofio beth y gall plant ei wneud i elwa ar dechnoleg gysylltiedig. O'r fan hon, gallwn roi awgrymiadau i chi yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym y mae gan eich plant ddiddordeb ynddo.