BWYDLEN

Pasbort Digidol UKCIS

Adnodd ar gyfer plant a phobl ifanc profiadol gofal, a'u gofalwyr

Offeryn cyfathrebu yw'r Pasbort Digidol hwn a grëwyd i gynorthwyo plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal i siarad â'u gofalwyr am eu bywydau ar-lein.

Beth welwch chi yn y Pasbort

Mae iddo dair rhan y dylid eu defnyddio gyda'i gilydd:

  • Pasbort Digidol: Cyflwyniad
  • Pasbort Digidol: Ar gyfer oedolion a gofalwyr
  • Pasbort Digidol: Ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae siarad yn rheolaidd am eu bywydau digidol gydag oedolyn dibynadwy yn ffordd allweddol o helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae'r Pasbort yn darparu strwythur ac adnoddau i'ch cefnogi chi i gael y sgyrsiau hynny.

Pasbort Digidol - Cyflwyniad

Pasbort Digidol - Ar gyfer oedolion a gofalwyr

Pasbort Digidol - Ar gyfer plant a phobl ifanc

Adnoddau a chanllawiau ategol 

Dewch o hyd i adnoddau e-ddiogelwch defnyddiol eraill a grëwyd ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol i gefnogi plant sydd wedi bod mewn gofal, eu bywydau ar-lein a'u hiechyd meddwl cyffredinol.

A oedd hyn yn ddefnyddiol?
Dywedwch wrthym sut y gallwn ei wella

Mae Gweithgor Defnyddwyr Bregus UKCIS yn gydweithrediad o arbenigwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser i helpu i leihau'r tebygolrwydd y bydd plant â gwendidau yn profi niwed ar-lein.