Ein papur briffio data newydd: diogelwch ar-lein mewn ysgolion
Mae rhai straeon cadarnhaol. Roeddem yn falch o ddarganfod bod athrawon ac arweinwyr ysgol yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol diogelwch ar-lein, ac yn deall eu rôl wrth amddiffyn plant mewn gofodau digidol. Rydym yn canfod bod ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i addysgu plant am ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys drwy wersi wedi’u hamserlennu, amser dosbarth a thrwy sesiynau ad-hoc fel gwasanaethau a diwrnodau thema.
Mae ysgolion yn ymdrin ag amrywiaeth dda o bynciau yn ymwneud â diogelwch ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio, rhannu noethlymun, lles meddwl, diogelwch data, amser sgrin a chynnwys niweidiol. Rydym hefyd yn canfod bod mwyafrif y rhieni yn teimlo bod ganddynt wybodaeth dda am ymagwedd yr ysgol at ddiogelwch ar-lein, ac roedd y rhan fwyaf o'r farn bod ymagwedd yr ysgol yn weddol dda neu'n dda iawn. Yn galonogol, roedd tri chwarter (75%) y rhieni wedi profi un math o allgymorth o ysgol eu plentyn.
Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd ddarganfod rhai mewnwelediadau llai cadarnhaol. Rydym yn datgelu bod pwysau a blaenoriaethau cystadleuol a wynebir gan ysgolion yn golygu nad yw diogelwch ar-lein bob amser yn cael ffocws digonol, er bod arweinwyr ysgolion yn cydnabod ei bwysigrwydd a gwerth eu rôl.
Mewn ymateb i’n harolwg, dywedodd athrawon wrthym mai’r rhwystrau mwyaf i addysgu diogelwch ar-lein effeithiol yw cadw i fyny â thechnoleg, deall y llwyfannau y mae myfyrwyr yn eu defnyddio, a diffyg amser a hyfforddiant priodol i deimlo’n hyderus wrth addysgu diogelwch ar-lein. Ac, er gwaethaf rôl ganolog rhieni wrth amddiffyn eu plentyn ar-lein (byddai 81% o blant 9-16 oed yn mynd at eu rhieni am gyngor ar ddiogelwch ar-lein, o gymharu â 70% a fyddai’n mynd at athro), rydym yn canfod bod ansawdd yr allgymorth rhwng ysgolion a rhieni weithiau'n ddiffygiol.
Mae rhieni’n cael allgymorth yn bennaf gan eu hysgolion trwy wybodaeth am amddiffyn eu plentyn ar-lein (38%) a gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn bwriadu mynd ati i addysgu diogelwch ar-lein (31%). Roedd 28% pellach o rieni wedi darllen y polisi diogelwch ar-lein ar wefan yr ysgol. Mae’n destun pryder nad yw’r un o’r prif lwybrau cyflwyno yn gwahodd trafodaeth a rhyngweithio rhwng yr ysgol a’r rhiant. Dim ond 15% o rieni oedd wedi mynychu digwyddiad am ddiogelwch ar-lein a drefnwyd gan yr ysgol, er bod rhieni wedi nodi mai hwn oedd y ffurf fwyaf effeithiol o allgymorth.
O’n rhan ni, rydym yn ymateb i’r angen i bontio’r bwlch rhwng yr ysgol a’r cartref gyda mentrau newydd fel Materion Digidol, llwyfan rhad ac am ddim ar gyfer addysgu am ddiogelwch ar-lein mewn ysgolion.