Pam fod yr ymchwil hwn yn bwysig?
Mae poblogrwydd diweddar offer AI cynhyrchiol fel ChatGPT yn golygu bod mwy o bobl, gan gynnwys plant, yn eu defnyddio. Yn ogystal, mae mwy a mwy o straeon yn adrodd bod disgyblion yn defnyddio’r offer hyn i gwblhau gwaith cartref neu fod athrawon yn eu defnyddio i greu gwersi.
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial barhau i ddatblygu, felly hefyd y bydd perthnasoedd pobl ag ef. Heb os, bydd hyn yn effeithio ac yn llywio addysg, gan gyflwyno cyfleoedd a heriau i blant, rhieni ac ysgolion.
Felly, gyda hyn mewn golwg rydym yn archwilio'r defnydd presennol o AI mewn addysg a barn teuluoedd am ddyfodol y dechnoleg.