Dywedodd rhai athrawon eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn addysgu diogelwch ar-lein, ond eu bod yn teimlo’n llai parod i ymdrin â materion bugeiliol pan fyddant yn codi. Gallai hyn fod oherwydd ansicrwydd ynghylch pa faterion sy’n dod o fewn cylch gorchwyl yr ysgol a sut i drafod pynciau fel cynnwys rhywiol neu dreisgar mewn modd sy’n briodol i’w hoedran.
Yn ogystal, gallai'r newid cyson yn nhirwedd y cyfryngau cymdeithasol ei gwneud hi'n anodd cael y wybodaeth ddiweddaraf. Roedd hyn, ynghyd â natur unigryw y rhan fwyaf o achosion, yn ei gwneud yn anodd sefydlu polisïau ysgol gyfan i arwain eu hymagwedd.