Crynodeb o egwyddorion
Ymarfer proffesiynol: polisïau diogelwch ar-lein
Mae polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein cyraeddadwy a chyson yn eu lle, yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yn cael eu deall gan bawb.
Ymarfer proffesiynol: hyfforddiant a diweddariadau
Mae hyfforddiant/diweddariadau ar y risgiau, y buddion a'r gefnogaeth i bobl ifanc o fod ar-lein yn cael eu cyrchu'n rheolaidd a'u rhannu gyda'r tîm cyfan.
Ymarfer proffesiynol: buddion ar-lein
Mae buddion a diogelwch ar-lein yn cael eu hymgorffori'n rheolaidd mewn arferion gwaith a'u hystyried
fel rhan o ddiogelu cyd-destunol.
Cefnogi gofalwyr: ymwybyddiaeth o bolisïau diogelwch ar-lein
Mae gofalwyr maeth yn deall ac yn ymwybodol o bolisïau diogelwch ar-lein, gweithdrefnau a llwybrau galw cynyddol.
Cefnogi gofalwyr: mynediad at wybodaeth a hyfforddiant
Mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi i ddeall a chael mynediad at wybodaeth, hyfforddiant a chymorth ar y risgiau, y buddion a’r gefnogaeth i bobl ifanc fod ar-lein.
Cefnogi gofalwyr: rheolaethau rhieni a risgiau ar-lein
Mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi i osod rheolaethau rhieni a thrafod risgiau, buddion a chymorth ar-lein gyda phlant yn eu gofal.
Cefnogi pobl ifanc: rhoi llais
Gwrandewir ar lais y plentyn.
Cefnogi pobl ifanc: ymgysylltu ar-lein
Mae pobl ifanc yn defnyddio cysylltedd ar-lein i gynnal perthnasoedd iach, datblygu gwytnwch digidol ac ymgysylltu â’r amgylchedd ar-lein mewn ffordd â chymorth.
Cefnogi pobl ifanc: cefnogaeth gyson
Anogir pawb sy'n cefnogi'r plentyn i weithio ar y cyd fel eu bod yn derbyn cefnogaeth a chyngor cyson am eu byd ar-lein.