Mae gemau ar-lein bellach yn fwy hygyrch a chymdeithasol nag erioed. Gyda chynnydd y gemau aml-chwaraewr ochr yn ochr rhwydweithio cymdeithasol mewn gemau, gall plant a phobl ifanc nid yn unig siarad â ffrindiau a theulu ond hefyd gysylltu â phobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod wrth chwarae.
Gwnewch ddefnydd llawn o osodiadau preifatrwydd i reoli gyda phwy y gall eich plentyn gyfathrebu a chwarae ar-lein. Nid yw'r rheolaethau hyn yn cymryd lle cyfranogiad rhieni, felly mae'n bwysig parhau i siarad â'ch plentyn am ddiogelwch ar-lein a sut i ddelio ag unrhyw beth sy'n eu cynhyrfu neu'n gwneud iddynt deimlo'n anniogel.
Daliwch ati i siarad ac i ymgysylltu Mae'n bwysig siarad â'ch plentyn yn rheolaidd am yr hyn maen nhw'n ei wneud ar-lein a sicrhau ei fod yn gwybod beth allan nhw ei wneud i gadw ei hun yn ddiogel. Gadewch iddyn nhw wybod y gallan nhw ddod atoch chi neu oedolyn dibynadwy arall os ydyn nhw'n teimlo'n bryderus, dan bwysau, yn ofidus neu'n anniogel. Gall plant a phobl ifanc hefyd gysylltu â neu ChildLine i gael cefnogaeth a chyngor.