“O gymharu â thon 1, mae plant yn profi llai o effeithiau cadarnhaol digidol ar y rhan fwyaf o feysydd eu lles. Mae'r gostyngiadau hyn yn ystadegol arwyddocaol ar gyfer lles datblygiadol a chymdeithasol.
“Er eu bod wedi dweud eu bod wedi profi ychydig mwy o’r pethau cadarnhaol ar eu lles corfforol, mae plant hefyd yn profi llawer mwy o’r effeithiau negyddol o gymharu â’r llynedd.
“Mae’r Mynegai hefyd yn amlygu bod plant yn profi llai o’r effeithiau negyddol ar eu lles emosiynol o gymharu â’r llynedd.”