Os yw'ch plentyn yn dod ar draws dieithryn - p'un ai ar-lein neu oddi ar-lein - dylent ei osgoi a pheidio â datgelu unrhyw beth personol. Anogwch nhw i aros yn anhysbys lle bo hynny'n bosibl a defnyddio enw defnyddiwr nad dyna'u henw go iawn.
Ewch trwy'r gosodiadau preifatrwydd gyda'ch plentyn ar gyfer pob gwefan a ap rhwydweithio cymdeithasol. Cytuno gyda nhw beth fyddan nhw'n ei rannu, a gyda phwy.
Gwiriwch y gosodiadau preifatrwydd ar y dyfeisiau maen nhw'n eu defnyddio. Cadwch lygad am wasanaethau lleoliad, rhannu cysylltiadau, lluniau, calendrau, rhannu Bluetooth, meicroffon, fideo, a gosodiadau hysbysebu.
Chwiliwch enw llawn eich plentyn mewn sawl peiriant chwilio a gweld pa wybodaeth a ffotograffau sy'n gyhoeddus.
Os dewch o hyd i sylwadau neu ffotograffau anghywir a allai niweidio enw da eich plentyn, gofynnwch i'r wefan eu tynnu.
Blociwch naidlenni i helpu'ch plentyn i osgoi lawrlwytho firws a allai gynaeafu gwybodaeth bersonol.
Ymwelwch yn rheolaidd â gwefannau diogelwch ar-lein fel Cyberstreet, Thinkuknow, Childnet, neu Parent Info i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion posibl.
Os yw hunaniaeth eich plentyn wedi'i dwyn
- Dywedwch wrth y gwefannau ac yr effeithir arnynt am y broblem
- Dylai eich plentyn fewngofnodi a newid ei gyfrinair ar unwaith
- Os na allant fewngofnodi, cysylltwch â'r adran cymorth technegol
- Newid unrhyw gwestiynau cyfrinachol neu wybodaeth ddilysu eraill y mae gwefannau yn eu defnyddio i adnabod defnyddwyr
- Gwiriwch gydag asiantaethau cyfeirio credyd am unrhyw gofnodion anarferol, ac am gyngor