Beth fydd eich rôl i'w cefnogi
Yn aml bydd plant ag anghenion ychwanegol angen ymgysylltiad ychwanegol â rhieni o ran gwneud dewisiadau mwy diogel ynghylch yr hyn maen nhw'n ei rannu a'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein. Fodd bynnag, yn dibynnu ar eu hoedran a'u gallu, mae ganddynt hawl i gael rhywfaint o breifatrwydd, ac wrth iddynt aeddfedu i fod yn oedolion, mae'n bwysig annog annibyniaeth.
Pa bynnag offer, rheolau, neu reolaethau rydych chi'n eu defnyddio i'w cadw'n ddiogel ar-lein, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod eich bod chi'n ei wneud a pham. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r hawl iddynt drafod hyn gyda chi ac, wrth iddynt ddangos eu bod yn gwneud dewisiadau da, y gallwch ac y byddwch yn lleihau lefel yr ymgysylltiad sydd gennych. Darganfyddwch fwy yma.