Cefndir ymchwil
Mae pobl ifanc yn mynd i’r afael â llawer iawn o newid cymdeithasol ac emosiynol ym mlynyddoedd yr arddegau: maen nhw’n gweithio allan pwy ydyn nhw, sut i adnabod a rheoli eu hemosiynau ac yn datblygu ymdeimlad o sut maen nhw’n ffitio i mewn i grwpiau cyfoedion ehangach. Yn anochel, o ystyried pwysigrwydd technoleg mewn bywyd modern, mae rhai o'r newidiadau hyn yn digwydd mewn mannau ar-lein.
Felly, os yw pobl ifanc i gael eu cefnogi drwy’r cynnydd a’r anfanteision yn ystod llencyndod, mae’n hollbwysig deall sut mae llwyfannau ar-lein yn dylanwadu ar eu datblygiad.