Materion Rhyngrwyd
Chwilio

Arolwg tracio Tachwedd 2024

Mewnwelediadau i ddefnydd digidol plant

Ddwywaith y flwyddyn, rydym yn cynnal arolwg gyda 1,000 o blant 9-17 oed a 2,000 o rieni plant 3-17 oed. Daw’r data diweddaraf hwn o’n harolwg ym mis Tachwedd 2024.

Archwiliwch y canlyniadau diweddaraf isod i gefnogi diogelwch a lles digidol plant ar-lein.

Mae merch yn edrych ar ei ffôn.

Mewnwelediadau arolwg Tachwedd 2024

Daw'r mewnwelediadau allweddol canlynol o'r don ddiweddaraf.

Mae ein hymchwil yn canfod yn gyson bod plant agored i niwed yn fwy tebygol o wynebu niwed ar-lein na’u cyfoedion nad ydynt yn agored i niwed, megis dod ar draws cynnwys treisgar (18%, o gymharu â 12%).

Rydym hefyd yn canfod bod merched yn cael eu hamlygu’n anghymesur i rai niwed, megis cael eu bwlio ar-lein gan bobl y maent yn eu hadnabod (13%, o gymharu â 7%).

Rydym yn canfod nad oes gan lawer o blant y sgiliau llythrennedd cyfryngau sydd eu hangen i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein. Er enghraifft, nid yw 35% o blant yn gwybod sut i ddad-ddilyn neu ddad-danysgrifio o gynnwys ac nid yw mwy na hanner y plant yn gwybod sut i riportio cynnwys neu ddefnyddwyr.

Ers mis Tachwedd 2023, mae canran y rhieni sy’n pryderu am gynnwys radical ac eithafol wedi codi 22%. Yn yr un modd, bu cynnydd o 15% mewn rhieni sy’n pryderu am gam-drin rhywiol ac aflonyddu plentyn-ar-blentyn, cynnwys hunanladdiad a chynnwys hunan-niweidio. Mae 92% o rieni yn poeni am o leiaf un niwed ar-lein.

Archwiliwch fewnwelediadau'r gorffennol

Gweler ein mewnwelediadau arolwg tracio dros y blynyddoedd blaenorol.