Sut i siarad am gasineb a hiliaeth ar-lein gyda phlant
Dechreuodd protestiadau Black Lives Matter mewn ymateb i farwolaeth dyn o’r enw George Floyd yn America ar ôl iddo gael ei stopio gan yr heddlu. Dilynodd nifer o brotestiadau a rhai gwrthdaro treisgar rhwng yr heddlu a phrotestwyr. Wrth i wrthdystiadau ysgubo ar draws dinasoedd yn yr Unol Daleithiau, fe gyrhaeddon nhw'r DU hefyd.
I’ch helpu i drafod symudiadau fel Black Lives Matter neu faterion fel hiliaeth a chasineb y gallai plant eu gweld ar-lein, gweler cyngor gan ein harbenigwyr isod.