Oedran annibyniaeth ddigidol
O ran mynd ar-lein, mae plant yn fwyaf tebygol o ddefnyddio tabled (68%) ond mae ffonau symudol yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac mae plant bellach yr un mor debygol o ddefnyddio ffôn symudol ag y maent yn gliniaduron (55%).
Mae'r symudiad hwn i symudol yn cael ei yrru gan blant hŷn, gyda 10 oed, yn dod yn oedran annibyniaeth ddigidol.
Rhwng naw a 10 oed, mae nifer y plant sy'n berchen ar ffôn clyfar yn dyblu o 23% i 50% - gan roi mwy o annibyniaeth ddigidol iddynt wrth iddynt baratoi i symud i'r ysgol uwchradd. Erbyn eu bod yn 15 oed, mae gan bron pob un (94%) o blant un.
Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil yn Ofcom:
“Nid yw plant heddiw erioed wedi adnabod bywyd heb y rhyngrwyd, ond mae dwy filiwn o rieni bellach yn teimlo bod y rhyngrwyd yn achosi mwy o niwed nag o les iddynt.
Felly mae'n galonogol bod rhieni, gofalwyr ac athrawon bellach yn cael mwy o sgyrsiau nag erioed o'r blaen gyda phlant am ddiogelwch ar-lein. Bydd addysg a rheoleiddio cryfach hefyd yn helpu plant i gofleidio eu hannibyniaeth ddigidol wrth eu hamddiffyn rhag y risgiau. ”