Pa blant yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan niwed ar-lein
Plant bregus
Roedd plant â gwendidau all-lein (ee SEND, profiad o broblemau iechyd meddwl) yn fwy tebygol o brofi niwed ar-lein o gymharu â'r rhai nad oeddent yn agored i niwed. Dywedodd 78% o rieni â phlant agored i niwed fod eu plentyn wedi profi o leiaf un niwed ar-lein o gymharu â 56% o rieni â phlant nad ydynt yn agored i niwed.
Roedd y grŵp hwn hefyd yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio’n fawr gan eu profiad o niwed ar-lein o gymharu â phlant nad ydynt yn agored i niwed.
Ymhlith rhieni sy'n dweud bod eu plentyn bregus wedi profi o leiaf un niwed ar-lein, mae mwy na 3 o bob 4 (76%) yn dweud iddo adael eu plentyn mewn trallod neu ofid. Mae hyn o'i gymharu â 57% o rieni â phlant nad ydynt yn agored i niwed sy'n teimlo effaith debyg y niwed ar-lein.
Plant yn treulio'r amser mwyaf ar-lein
Roedd plant a dreuliodd fwy o amser ar-lein yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi profi niwed ar-lein yn y lle cyntaf. Er y gellir herio’r berthynas rhwng yr amser a dreulir ar-lein a’r profiad o niwed ar-lein, ac nad yw o reidrwydd yn achosol, mae patrwm clir rhwng treulio mwy o amser ar-lein a bod yn fwy tebygol o brofi niwed ar-lein.
Ffigur 3: Cyfartaledd yr amser a dreuliwyd ar-lein (hh:mm) gan blant nad ydynt wedi profi unrhyw niwed ar-lein (N-210) a’r rhai sydd wedi profi o leiaf un niwed ar-lein (N-790)
Beth mae plant yn ei wneud ar-lein
Pan ofynnon ni i blant beth maen nhw'n ei wneud ar-lein, gwelsom wahaniaethau sylweddol rhwng y rhai a oedd wedi profi niwed a oedd yn cael effaith negyddol fawr a'r rhai nad ydyn nhw wedi profi unrhyw niwed ar-lein.
Ffigur 4: beth mae plant yn ei wneud ar eu dyfeisiau digidol. Y plant hynny nad ydynt wedi profi unrhyw niwed ar-lein (n-210), plant sydd wedi profi niwed ar-lein ac sydd wedi’u heffeithio’n fawr ganddo (n-220)
Roedd plant sy’n dweud eu bod wedi cael eu heffeithio’n fawr gan eu profiad o niwed ar-lein fwy na theirgwaith yn fwy tebygol o fod defnyddio ystafelloedd sgwrsio a fforymau (+243% o wahaniaeth) a crewyr (llwytho fideos y gwnaethant eu hunain, +218%) o gymharu â'r plant hynny nad ydynt wedi profi unrhyw niwed ar-lein. Nid yw’n sicr ai’r gweithgareddau hyn oedd gwraidd y niwed ar-lein a brofwyd, ond gallai’r niweidiau ar-lein mwyaf cyffredin – newyddion ffug, dieithriaid yn cysylltu â phlant a lleferydd casineb – ddigwydd o ganlyniad i’r gweithgareddau hyn.