Mae'n bwysig eich bod chi'n cael y ddyfais gywir ar gyfer eich cartref i gadw plant yn ddiogel.
Er bod y tri phrif opsiwn gan Google, Amazon ac Apple i gyd yn rhannu nodweddion tebyg, mae sut maen nhw'n integreiddio â thechnoleg arall yn amrywio. O'r herwydd, mae'n werth ymchwilio i ba systemau fydd yn gweithio gyda'ch technoleg bresennol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gennych reolaethau llais eisoes nad ydych yn eu defnyddio. Er enghraifft, mae llawer o ffonau smart yn defnyddio'r dechnoleg hon.
Cyn buddsoddi mewn mwy o ddyfeisiau, beth am ddechrau defnyddio gorchmynion llais ar dechnoleg bresennol i weld sut hwyl rydych chi'n ei chael?
Yn ogystal, ystyriwch pa nodweddion fyddai'n gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywyd teuluol. I mi, nid yw troi bylbiau golau ymlaen ac i ffwrdd (neu newid eu lliw) erioed wedi bod mor gyffrous â hynny. Ond mae gallu addasu'r gwres, cael gwybodaeth am y tywydd a theithio yn ogystal â darllen ac ateb negeseuon yn fwy defnyddiol.