Wedi'i chydlynu gan tootoot, mae wythnos llais disgyblion wedi'i chynllunio i annog ysgolion cynradd ac uwchradd i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol, megis bwlio, seiberfwlio, hiliaeth, iechyd meddwl a materion e-ddiogelwch y gall plant a phobl ifanc eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Ochr yn ochr ag athrawon, gweithwyr cymdeithasol, cynghorau, cwmnïau a llunwyr polisi, hoffem eich annog chi fel rhieni i ymuno ac archwilio ffyrdd y gallwch chi rymuso'ch plentyn i deimlo'n hyderus i siarad am ei bryderon.
Bydd wythnos Llais y Disgyblion yn cael ei chynnal rhwng 26 a 30 Medi ac eleni y thema yw 'Mae'n Dda Siarad'.