Tuag at y drefn diogelwch ar-lein newydd:
Mae cadw plant yn ddiogel ar-lein yn gyfrifoldeb a rennir – rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, gan gynnwys rhieni, ysgolion, diwydiant a llywodraeth. Mae Internet Matters wedi hyrwyddo ers tro bod angen mwy o reoleiddio ar lwyfannau ar-lein, er mwyn sicrhau nad yw diogelwch ar-lein yn cael ei adael i deuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi yn unig.
Wrth i ni symud tuag at greu’r drefn diogelwch ar-lein newydd yn ddiweddarach eleni, bydd Internet Matters yn parhau i rannu ein mewnwelediad arbenigol i fywydau ar-lein teuluoedd ag Ofcom, y llywodraeth a’r diwydiant i lywio’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau newydd hyn.