Canfyddiadau'r arolwg
Datgelodd yr arolwg y byddai mwyafrif y rhieni (84.6%) yn hoffi isafswm oedran ar gyfer perchnogaeth ffôn clyfar yn y DU - gydag 10 oed yr isafswm oedran mwyaf poblogaidd.
Gofynnwyd hefyd ar ba oedran yr oedd rhieni wedi rhoi ffôn clyfar i'w plentyn ac roedd y canlyniadau'n tynnu sylw at amrywiadau rhanbarthol enfawr o ran defnydd ffonau clyfar ymhlith plant.
'Prifddinas ffôn clyfar Prydain'
Datgelwyd mai Newcastle oedd ‘prifddinas ffôn clyfar Prydain’ i blant - gyda 90.5% o blant ysgolion cynradd 8-11 oed yn berchen ar un, o’i gymharu â Manceinion (64.7%), Birmingham (60.7%) a Llundain (55.2%). Daeth Brighton a Hove ar waelod y tabl gyda 40%.