Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth JAN, Ymgyrchydd ac Ymgynghorydd
Mae Sajda yn gwybod o lygad y ffynnon yr effeithiau y gall terfysgaeth eu cael, llwyddodd i ddianc o drwch blewyn o anaf difrifol a marwolaeth yn ystod yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ar 7th Gorffennaf 2005 lle roedd hi ar yr un tiwb Piccadilly â'r bomiwr Germaine Lindsay. Ers hynny, daeth yn benderfynol o weithio yn ei chymuned er mwyn cryfhau’r rôl y mae menywod a mamau yn ei chwarae wrth adeiladu cymdeithas gryfach, fwy diogel. Bron i ddegawd yn ôl, datblygodd Sajda y rhaglen arloesol Web Guardians ™ sydd wedi ennill gwobrau, gan weithio gyda menywod a mamau i amddiffyn eu plant rhag eithafiaeth ar-lein. Mae hi'n cynghori ysgolion, partneriaid sector cyhoeddus / preifat.
Mae Saje hefyd yn aelod o Gyngor Diogelwch Rhyngrwyd Plant y DU (UKCCIS) a chyd-sefydlodd y Rhwydwaith Goroeswyr yn Erbyn Terfysgaeth.
Mae Sajda wedi derbyn nifer o wobrau a chydnabyddiaeth am ei gwaith ac yn 2015 dyfarnwyd OBE iddi.
Mae hi hefyd yn fam i ddau o blant ifanc.