Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o GCHQ, yw awdurdod technegol y DU ar gyfer seiberddiogelwch. Ers 2016 mae wedi gweithio i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein a dod ag eglurder a mewnwelediad i fyd ar-lein cynyddol gymhleth.
Mae ein panel arbenigol yn rhannu cyngor ar sut i nodi a mynd i’r afael â sgamiau ar-lein, gan gynnwys sut y gallai pobl ifanc gael eu heffeithio ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn gemau.
Gall torri data ddigwydd i unrhyw un ond gall cyfrinair cryf helpu i'w atal. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn esbonio sut y gallwch chi a’ch teulu aros yn ddiogel ar-lein.