Yn union fel mewn unrhyw le arall, mae angen i mi aros yn ddiogel
Cyngor i bobl ifanc
Dysgu mwy am pam ei bod yn bwysig bod yn ddiogel wrth gysylltu ag eraill ar-lein a ffyrdd o wneud hyn yn ddiogel.
Rydych chi yn: Y camau cyntaf
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gosodiadau
Beth i feddwl amdano
Dewis gyda phwy dwi'n sgwrsio
Pan groesoch chi ffordd gyntaf roedd yn rhaid i chi ddysgu edrych yn ofalus i'r chwith ac i'r dde i weld a oedd hi'n ddiogel croesi. Fe wnaethoch chi hefyd ddysgu croesi wrth olau gwyrdd. Mae'r pethau hyn yn eich cadw'n ddiogel.
Ar-lein, mae'n rhaid i ni i gyd ddysgu sut i symud o gwmpas yn ddiogel hefyd.
- Nid yw rhai lleoedd ar-lein ar gyfer plant na phobl ifanc.
- Efallai y byddwch chi'n gweld pethau brawychus neu'n cael eich synnu gan rywbeth. Nid eich bai chi yw hyn.
- Dyna pam y bydd angen i chi ddysgu i ble y gallwch chi fynd yn ddiogel a sut i chwilio'n ddiogel.
- Bydd angen i chi ddysgu beth allwch chi ei rannu a beth allai gynhyrfu pobl eraill neu wneud problemau i chi.
- Rydyn ni'n aml yn siarad am yr hyn sy'n briodol - mae hyn yn syml yn golygu ei bod hi'n iawn gwneud hyn. Weithiau rydyn ni'n gweithredu mewn ffordd sy'n iawn mewn rhai sefyllfaoedd ond nid mewn eraill. Felly nid yw'r hyn sy'n ymddangos yn jôc rhyngoch chi a'ch ffrind, yn addas i'w anfon at nain. Mae'n cymryd amser i ddysgu beth sy'n briodol ai peidio (amhriodol) ond mae'n bendant yn amhriodol anfon negeseuon neu ddelweddau anghwrtais, annifyr neu rywiol.